Yr Haclediad artwork

Yr Haclediad

135 episodes - Welsh - Latest episode: about 2 months ago -

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Technology News Tech News tech cymraeg welsh technology technoleg meddalwedd film cymru wales
Homepage Apple Podcasts Google Podcasts Overcast Castro Pocket Casts RSS feed

Episodes

Episode 34: 34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014

February 10, 2014 09:00 - 1 hour - 31.1 MB

Ar y rhifyn cyn-Haciaith 2014 yma bydd y Iestyn, Bryn a Sioned yn rhoi croeso gwresog i S4C i blatfform Youview; croeso a rhybydd i CEO newydd Microsoft, ac wrth gwrs cyffroi’n wirion cyn digwyddiad byw Hacio’r Iaith 2014 ym Mangor ar Chwefror y 15fed… welwn ni chi yno! Dolenni S4C ar Youview WebOS ar LG Satya Nadella Haciaith 2014 Dolby Vision CES Sen.se Mother Hysbyseb Hive The post Haclediad #34: Youview, nhw-view a Haciaith 2014 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 33: 33: Ho-ho-haclediad

December 09, 2013 13:00 - 1 hour - 32.3 MB

Croeso i rifyn Nadolig yr Haclediad! Byddwn ni’n rhoi sbin tymhorol ar newyddion y mis – Grantiau technoleg y Cynulliad, gêm Gymraeg ar Steam, brwydro’r Xbox vs PS4 a llawer mwy. Bydd Bryn yn deud ei jôcs gorau ac yn awgrymu gemau bwrdd (www hw!), Iestyn yn rhedeg allan o wisgi a Sioned yn trio cadw’r rhestr ‘Dolig lawr o dan £10,000 am unwaith. Hyn oll a mwy yn eich rhifyn Nadoligaidd sgleiniog o’r Ho-ho-haclediad! Nwdlscyf Enaid Coll – gêm Gymraeg ar Steam The post Haclediad #33: Ho-ho...

Episode 32: 32: Pwdin Mwyar duon ac iOS7 Afal

October 08, 2013 12:00 - 56 minutes - 27.1 MB

Yn Haclediad 32 bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn trafod gwerthu cwmni Blackberry am llai na mae Apple yn neud mewn blwyddyn, update diweddaraf iFfôn a Bryn yn ymuno â byd Android. Wrth gwrs bydd hefyd y cyfuniad gorau o sgwrs a nonsans i’ch clustiau – mwynhewch! The post Haclediad #32: Pwdin Mwyar duon ac iOS7 Afal appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 31: 31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru

September 02, 2013 11:00 - 44 minutes - 21.6 MB

Wedi rhifyn byw’r eisteddfod, mae’r criw nôl yng Nghaerdydd, Llundain a Chaernarfon am rifyn diweddara’r haclediad! Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod 4G yn cyrraedd, mwy o esiamplau o brosiectau a gwefannau Half Arsed Cymru, a bydd Bryn Blin yn ailymuno efo’r criw yn achlysurol – ond rhaid gwrando i weld pam! 4G Buers Guide – The Verge Gwladigidol The post Haclediad #31: Anturiaethau 4G a HalfArsedCymru appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 30: 30: Yn Fyw o’r M@es

August 05, 2013 21:00 - 40 minutes - 32.2 MB

Helo a chroeso i rhifyn arbenig o’r Haclediad yn fyw o faes yr Eisteddfod. Yn anffodus roedd Sioned methu bod efo ni, ond yn lwcus doedd dim alcohol, felly cadwodd Bryn a fina eithaf call. Rydym yn sgwrsio efo Kim Jones o Technocamps sydd yn helpu dysgu plant am gyfrifiaduron, robots a pob fathau o prosiectau Raspberry Pi. Wedyn mae na sgwrs arall am sefyllfa elyfrau yng Nghymru ar ôl lawnsiad app siop newydd gan y Cyngor Llyfrau. Ydy nhw’n mynd y ffordd iawn? A oes goleuni ar ddiwadd y DR...

Episode 29: 29: Yr Un Preifat

July 16, 2013 14:15 - 1 hour - 29.6 MB

Y tro yma ar yr Haclediad, yn ogystal â thrafod pa cocktail yn union mae Iestyn wedi paratoi, a pha ‘vintage’ o chwisgi sy’ gan Bryn; byddwn ni’n edrych ar sefyllfa band eang Cymru, cymryd cipolwg ar wythnos ddigidol Caerdydd a holi beth yn union mae chwibanu Edward Snowden yn golygu i ni. Mae hefyd llawer, llawer mwy i’ch clustiau chi fwynhau ar y traeth/Costa del Ardd Gefn yn Haclediad 29! The post Haclediad #29: Yr Un Preifat appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 28: 28: Cynhadledd-I/O

May 29, 2013 21:00 - 1 hour - 33.8 MB

Henffych! Dyma i chi rifyn cynta’r “hâf” o’r Haclediad. Bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn sôn am gynhadleddau di-ri: cynhadledd Creadigidol S4C oedd yn ceisio cael gafael ar ddyfodol digidol ein sianel genedlaethol ac yna cynhadledd Google I/O, gyda yna lwyth o bethau newydd i’w gweld gan y cewri chwilota a hysbysebu, wel, heblaw am eu cofnodion treth hynny ydi. Fe gyfarfu Bryn â’i arwr, y Nerdist a fuon ni’n trio gwasanaethau cerddoriaeth diweddaraf Twitter. Hyn oll a llawer mwy(dro) i chi fwy...

Episode 27: 27: ‘Home’

April 12, 2013 09:00 - 47 minutes - 23 MB

Ar Haclediad y tro hwn, byddwn yn trafod dyfodiad y ffôn Facebook cyntaf – caru neu gasáu gwefan Mr Zuckerberg, mae hi rŵan ar gael ar ffôn Android ei hun. Hefyd, byddwn ni’n cymryd golwg ar arian arlein Bitcoins, a’r codi a chwymp yn ei gwerth ar farchnad stoc rithwir y we. Hyn oll a llawer mwy o fwydro am deithiau tramor Bryn, yn eich rhifyn diweddaraf o’r Haclediad! Ac wrth gwrs, diolch ENFAWR eto i Gafyn Lloyd am gymysgu, sortio a pholsio’r Haclediad eto mis yma! The post Haclediad #27...

Episode 26: 26: Yr un byw na fu21: Hei Mistar Urdd!

February 13, 2013 10:00 - 1 hour - 36.5 MB

Ar yr Haclediad diweddaraf i gnesu‘ch cocyls bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod digwyddiad Hacio’r Iaith ’13 gyda’u gwestai arbennig Gareth Morlais. Bydd y criw hefyd yn cymryd cipolwg ar wasanaeth fideo byr newydd Twitter, Vine, ac yn troi cadw’n heini yn gêm gyda profiadau Bryn efo’i Nike Fuel band. Hyn oll, a mwy ar Haclediad #26! Dolenni Gareth Morlais twtlol.co.uk Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg Ifan Dafydd – Celwydd (feat. Alys Williams) Anger over Twitter porn gaffe o...

Episode 25: 25: Hwyl (teci) yr Ŵyl 2012

December 18, 2012 11:00 - 56 minutes - 27.3 MB

Yn ôl yng nghôl yr Haclediad y tro hwn mae Sioned, a bydd Bryn ac Iestyn yn ei chroesawu nôl efo cipolwg ar Windows 8 – y dyfodol neu ddymchwel i Microsoft? Hefyd byddwn yn sbïo dros aps newydd geiriadur a bysellfwrdd Cymreig ffab i’ch ffonau a rhestr Nadolig yr Hacledwyr, be da ni am weld yn yr hosan yna ddiwedd mis Rhagfyr? Byddwn hyn edrych mlaen yn ogystal i ddigwyddiad y flwyddyn – Hacio’r Iaith ym mis Ionawr, byddwch yn barod gyda’ch pasbortau i ddod lan/lawr i Aberystwyth! Dolenni L...

Episode 24: 24: Yr un efo Elliw!

October 23, 2012 14:00 - 58 minutes - 28.4 MB

Mae’n ddrwg gennym am y tawelwch sydd wedi bod, ond mae rhai ohonom wedi bod i ffwrdd yn gwneud pethau pwysicach. Felly dyma ei’n Haclediad cyntaf heb Sioned. Roedd yn ormod o risg gadael Bryn a fi ar ben eu hunain i fwydro, felly rhowch croeso mawr cynnes i Elliw Gwawr — sy’n trio ei gorau i gadw trefn. Gadewch i’r rhefru ddechrau… O.N. Mi gafwyd hwn ei recordio pythefnos yn ôl, oherwydd materion y meddwl dim ond rŵan mae’n cael ei gyhoeddi. Ymddiheuriadau. The post Haclediad #24: Yr u...

Episode 23: 23: Yn fyw o Eisteddfod y Fro 2012

August 20, 2012 21:00 - 52 minutes - 37.8 MB

Rhifyn arbennig o’r diwedd, anrheg hafaidd i’ch clustiau – rhifyn byw arbennig yr Haclediad o faes Eisteddfod y Fro 2012. Daeth miloedd[1] ohonoch yno i wylio Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod popeth o gysylltiadau digidol y maes ac ap y brifwyl hyd at bosibiliadau 4G mewn cae yn Ninbych flwyddyn nesa. Hefyd, mae cyfle i wrando ar swn peraidd y trac go-karts drws nesa i’r maes[1] yn ogystal â lleisiau melfedaidd eich cyflwynwyr. Ac wrth gwrs, mae digon o’r rantio a rwdlan hwyl arferol i’w gae...

Episode 22: 22: Yr un 7 modfedd

July 23, 2012 12:00 - 1 hour - 29.1 MB

Yn Haclediad 22 (yr un olaf cyn Hacio’r Iaith yn yr eisteddfod), byddwn ni’n busnesa ar ddatblygiadau tech Google yn eu cynhadledd I/O, pwt ar S4C yn rhoi’r gorau iddi ar clirlun, tabled newydd sgleiniog y Microsoft surface – ac wrth gwrs edrych mlaen i’r Haclediad byw yng ngŵyl dechnoleg yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg. Diolch am wrando, a falle welwn ni chi yn y brifwyl! Dolenni Google I|O Y Rhyfel yn Parhau Sergey’s Spectacular Google Glass Skydive: Watch It All Google Nexus Asus Ne...

Episode 21: 21: Hei Mistar Urdd!

June 03, 2012 12:00 - 58 minutes - 28.2 MB

Mae’r haclediad yn troi’n 21 y mis yma, ond does dim arlliw o dyfu fyny yn perthyn i’r rhaglen, diolch byth! Tro hwn byddwn ni’n trafod Gmail Cymraeg yn cyrraedd wedi siwrne hir, cipio rhagolwg ar Windows 8, aps eisteddfod yr Urdd a rhwystredigaethau di-ri diweddaru Android. Hyn oll a llwyth o fwydro penigamp gydag Iestyn, Bryn a Sioned i’ch diddanu dros y penwythnos hir yma. Joiwch! Dolenni Ap Urdd Urdd 2012 app Windows 8 Release Preview Windows 8 Release Preview now available to downl...

Episode 20: 20: Yr un am y Ffôns a'r Porn

May 09, 2012 12:00 - 49 minutes - 24 MB

Amser maith yn ôl, mewn bydysawd pell i ffwrdd (well, Dydd Gwener ddiwethaf), ddaru ni (Sioned, Iestyn a Bryn) ymgasglu i drafod y digwyddiadau yn y byd technegol… dan drafodaeth oedd Ffôn newydd Samsung, sydd ddim mor hot ‘na ny. Cynlluniau’r llywodraeth i flocio porn sa bod ni’n gofyn amdano a thomen o podlediadau a fodlediadau newydd sydd wedi cael ei lansio yn y misoedd diwethaf. Diolch i Gafyn Lloyd unwaith eto, a recordiwyd ar Mai 4ydd 2012. Dolenni SNOOPIO Llywodraeth Cymhariaeth ...

Episode 19: Yr un efo’r iPads galore (a lot mwy yn amlwg!)

April 07, 2012 16:00 - 59 minutes - 28.5 MB

Da ni’n agosáu at yr 20 fawr, felly tan hynna mwynhewch rifyn eclectig 19 o’r Haclediad! Mis ‘ma bydd Sioned (@llef) Bryn (@bryns) ac Iestyn (@iestynx) yn trafod yr iPad 3 gan fod Bryn wedi cael un neu ddau, gwrandewch am y stori sut yn union ddigwyddodd hynny. Cynlluniau ysbïo’r llywodraeth, a pha mor breifat bydd ein cysylltiadau ar-lein sy’ angen ? Bydd hyd yn oed MWY am e-lyfrau (ar gael o’ch llyfrgell leol nawr), saga barhaol y Windows Phone, a llwythi o fwydro amrywiol a difir technol...

Episode 18: “Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mai Hacledio”

February 28, 2012 10:00 - 53 minutes - 25.8 MB

Helo wrandawyr! Ar yr Haclediad mis yma – bydd Bryn, Iestyn a SIoned yn trafod sut aeth Hacio’r Iaith 2012 (ardderchog, wrth gwrs), dyfodiad Sianel 62 i’ch dyfeisiau bob nos Sul (darlledir y chwyldro arlein?), deddfwriaeth ACTA (yda ni am gael ein cicio oddiar y we, eto?) dim .cymru a sibrydion iPad 3, ffiw! Yng nghanol hyn i gyd bydd mwydro, dadlau a gwylio fideos doniol am Samsung (wele yma, ac yma os da chi am wylio ar y cyd adre ‘de!) Diolch i Gafyn Lloyd am olygu’r cyfan a diolch i ch...

Episode 17: Yr Un Byw o Hacio’r Iaith 2012

February 07, 2012 10:00 - 43 minutes - 21.3 MB

Dyma recordiad byw Haclediad #17, o flaen cynulleidfa eiddgar yn Hacio’r Iaith 2012. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo SOPA bill yr Unol Daleithiau, Twitter yn sensro cynnwys am y tro cyntaf, blogiau Cymraeg, cwestiynau’r  gynulleidfa, memes arlein ac yna’n darganfod un o raglenni coll Sci-Fi Cymru yn y broses! I ddilyn Hashtags y sgwrs a gweld y cwestiynau ddaeth mewn ewch i Storify Bryn A dyma hi fideo’r Haclediad (os da chi am weld ein wepiau ni). Recordiwyd ar 28ain o Ionawr. The ...

Episode 16: Yr Un Sâl!

January 09, 2012 14:00 - 1 hour - 29 MB

Croeso i Haclediad #16: Yr Un Sâl! Ar ddechrau 2012 byddwn ni yn trio ymladd y ffliw ac yn dod â thameidiau blasus y flwyddyn a fu a’r flwyddyn i ddod i’ch clustiau! Byddwn yn trafod y tech gorau o 2011, ac yn darogan pa ddyfeisiau neu gwmnïau bydd yn ffarwelio â ni yn 2012. Byddwn hefyd yn dechrau ar ymgyrch gwrth-#halfarsedWales yn y gobaith o weld dylunio gwych o Gymru. Ac wrth gwrs, byddwn yn edrych mlaen yn arw am Hacio’r Iaith 2012 ar y 27ain a’r 28ain o Ionawr, welwn ni chi yno! Dole...

Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digidol S4C

December 20, 2011 09:30 - 49 minutes - 24 MB

Anrheg Nadolig cynnar i chi Hacledffans, dyma ein hasesiad ni o adroddiad Panel Digidol S4C – Cofleidio’r Dyfodol. Mae Rhodri ap Dyfrig (@nwdls), aelod o’r panel yn mynd a ni trwy’r adroddiad, a be mae’n meddwl i ni ddefnyddwyr gwasanaethau S4C. Bydd Iestyn yn rhoi’r adroddiad i’r Iest Test, gwrandewch i glywed y ddyfarniad. Nadolig Llawen iawn hefyd i chi gyd sy’n gwrando, a diolch mahwsif i chi am wneud. Ymlaen i Hacio’r Iaith 2012! The post Haclediad 15.5 – Yr Iest Test: Adroddiad Digid...

Episode 15: Yr un Gaeafol

December 05, 2011 15:00 - 55 minutes - 26.9 MB

Croeso i rifyn gaeafol, lled-Nadoligaidd diweddaraf yr Haclediad! Tro hwn bydd Bryn (@Bryns), Iestyn (@Iestynx) a Sioned (@llef) yn trafod Rasberry Pi – y cyfrifiadur bach haciol i blant (neu ni oedolion!) ddysgu rhaglennu, adroddiad Cofleidio’r Dyfodol am ddyfodol digidol S4C; y rhwydwaith cymdeithasol newydd Path ac wrth gwrs Hacio’r Iaith 2012 (Aberystwyth 27 a 28 Ionawr, dewch yn llu!). Gobeithio gwnewch chi fwynhau, ac os na, dangoswch eich rhesymu yma! Dolenni Swyddi cynnwys Digidol ...

Episode 14: Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw)

November 07, 2011 10:15 - 1 hour - 33.3 MB

Croeso i Haclediad #14 – Mae’n dda i ddarllen (e-lyfrau hynny yw), y rhifyn cyntaf gyda chyfweliad gyda pherson go iawn! Yn ymuno gyda Sioned, Bryn ac Iestyn mae Garmon Gruffydd o gyhoeddwyr Y Lolfa, gyda’u gobeithion a chynlluniau nhw ar gyfer cyhoeddi e-lyfrau yn y Gymraeg. Byddwn yna yn trafod lle mae hyn yn gadael gobeithion rhai am gyhoeddi agored Cymreig ar-lein, ond nid sioe llyfrau yn unig fydd hi peidiwch poeni! Mae’r Nokia Lumia 800 yn ein temtio, ynghyd â’r newyddion gwych am bros...

Episode 13: Tân ac Afalau

October 07, 2011 10:00 - 59 minutes - 28.8 MB

Gyda Apple yn dod a’r iPhone 4S i’r byd ac Amazon yn cynnau’r Kindle Fire, mae’n frwydr y ffanbois yn rhifyn hwn yr Haclediad. Yn symud ‘mlaen o’r Kindle Fire, byddwn yn trafod sefyllfa siomedig e-lyfrau Cymru, awgrymiadau fforwm cyfryngau newydd S4C a’r newyddion gwych am Hacio’r Iaith 2012. Anghofion ni sôn am Facebook newydd, ond s’neb yn poeni am hynna, ‘ni gyd yn trio gadael beth bynnag! Dolenni Siri iPhone 4S Introducing Voice Actions for Android Kindle Fire eLyfrau y Lolfa S4C f...

Episode 12: Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)

September 06, 2011 11:00 - 51 minutes - 24.8 MB

Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle fel CEO Apple Inc, creu cwmni Googorola wrth i Google brynu Motorola ac ymadawiad HP o’r farchnad cyfrifiaduron cartref. Be’ mae hyn i gyd yn meddwl i ni fel defnyddwyr, ydan ni wirioneddol mewn byd ‘post-pc’? Da ni’n sicr mewn byd post-papur serch hynny, ond ydi ...

Episode 11: Haclediad #11 – Y Llew yr Afal a’r Cwmwl

July 28, 2011 14:00 - 1 hour - 30.3 MB

Mae Haclediad 11 yma i chi wrando arno ar yn eich carafan, adlen neu westy moethus ym mro’r Eisteddfod! Yn y rhifyn hwn byddwn yn trafod OS X – Lion ar  y Mac, yr aps diweddaraf Cymraeg (ond yn hepgor update newydd iSdeddfod gan griw Fo a Fe, sori bois!), dyfodiad a thyfiant Google+ a gweledigaeth y buddsoddwr Roger McNamee ar sut bydd yr haenen gymdeithasol ac HTML5 yn newid sut ‘da ni’n defnyddio’r we am byth. I chi sy’n mynd i’r Eisteddfod, bydd Hacio’r Iaith Bach yno ar y maes, ewch dra...

Episode 10: Yr un niwlog

June 30, 2011 14:00 - 53 minutes - 75.2 MB

Dyma fo’n boeth i’ch clustiau chi (sôn am boeth, gwrando perffaith i’r gwyliau!) – Haclediad 10, neu Haclediad X i chi ddefnyddwyr Apple. Byddwn yn cael cipolwg ar gemau am y tro cyntaf yn y rhifyn hwn, gyda newyddion am yr Wii U, Duke Nukem Forever ac apps gemau rhad ac am ddim i blant gan S4C. Ym myd ffôns bydd mwy o newyddion am yr Nokia N9, a’r Nokia “Sea Ray” y protoeip Windows Phone 7 ‘cudd’ mae Nokia wedi ei ddangos yn yr wythnosau diwethaf (mae’r fideo wedi diflannu yn anffodus). B...

Episode 9: 9: Yr un [redacted]

May 27, 2011 11:00 - 1 hour - 99.3 MB

Megis ffreis Ffrengig a Big Mac dyma Haclediad #9 mewn amser record o gyflym! Croesawn y polymath cyfryngol Cymraeg, Rhodri Ap Dyfrig (@nwdls) i’r Haclediad am y rhifyn hwn; a byddwn yn trafod dyfodiad iPhone app S4C, sïon yr iPhone 5, e-ddarllenwyr ac e-lyfrau Cymraeg a datblygiadau’r Windows Phone. Os nad yw Twitter wedi rhoi’n manylion cyswllt i’r cwrt, a’n  byddwn hefyd yn trafod effaith goruwch waharddebau (superinjunctions, diolch heddlu iaith!) ar rwydweithiau cymdeithasol. Diolch ...

Episode 8: 8: Nid jyst Podlediad arferol mohono… ond Haclediad #8!

May 21, 2011 09:00 - 45 minutes - 63.7 MB

Mae hwn wedi bod yn bragu gyda ni ers tipyn, ond yn y rhifyn blasus hwn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y stori (neu beidio) o dracio lleoliad gan Apple, sut wnaeth y briodas Frenhinol styrbio trydar y genedl a phroblemau dybryd y Rhwydwaith PlayStation. I ddod a ni nôl i dir sanctaidd y gîcs byddwn yn trafod Star Wars yn cael ei gyhoeddi ar BluRay, a’r dyfodol i ffrydio fideo. Diolch am wrando, cofiwch anfon sylw os feddyliwch chi am unrhyw beth i’w ychwanegu i’r profiad! Hwyl, Tîm ...

Episode 7: 7: Yr un sy’n Magnifico

April 05, 2011 11:00 - 49 minutes - 69.1 MB

Mae’n rhifyn rhyngweithio Cymraeg ar yr Haclediad y mis hwn gyda’r criw, Bryn, Iestyn a Sioned. Byddwn yn trafod pen-blwydd cyntaf Lleol.net, datblygiad ac adborth ar drawsnewidiad gwefan Golwg360 ac erthygl Bryn ar strategaeth (neu ddiffyg strategaeth) ddigidol S4C. ‘Does dim anwybyddu’r tech chwaith serch hynny, felly peidiwch poeni! Mae’r iPad2 wedi cyrraedd, ydi o werth y ciwio? Ac yna mae dyfodiad gwasanaeth cwmwl Amazon hefyd i ni gael busnesa ar tech rhyngwladol yn ystod y rhifyn yma...

Episode 6: Yr un ar ôl yr un byw!

March 02, 2011 15:00 - 55 minutes - 78.2 MB

Heia wrandawyr, dyma ni’n cyflwyno Haclediad #6 – Yr un ar ôl yr un byw! Diolch mawr i bawb ddaeth draw i’n gweld a lawrlwytho Haclediad #5 o ddigwyddiad Hacio’r Iaith, ac i’r holl griw technegol oedd yn rhan o’i chyhoeddi, da chi’n bril. Y tro hwn ar Haclediad #6 byddwn yn trafod mwy am ddyfodiad Umap Cymraeg, yr aggregator trydar Cymreig. Byddwn hefyd yn sôn am yr anghydfod rhwng Apple a rhai o’u cyhoeddwyr, dyfodiad yr iPad 2 a phosibiliadau rheolydd y Microsoft Kinect nawr bod teclyn da...

Episode 5: Yn fyw o Hacio’r Iaith 2011

February 02, 2011 09:00 - 47 minutes - 67 MB

O’r diwedd, mae Hacio’r Iaith 2011 wedi dod a mynd, a’r oll sydd ar ôl i chi yw’r haclediad byw! Wedi ei recordio cyn lansiad yr Umap Cymraeg gwych (cy.umap.eu), mae ‘na dal ddigon o drafodaeth yn y rhifyn byw arbennig hwn. Mae’r haclediad yn trafod ychydig o newyddion y dydd, a fe gafon ni lwyth o gwestiynau gan y gynulleidfa wych, a gewch chi wrando i glywed y rhai gwirion a gwirioneddol ddiddorol! Yn yr haclediad mae Iestyn (@iestynx), Bryn (@bryns) a Sioned (@llef) yn rhoi’r we yn ei le...

Episode 4: Yr un gyda’r gwestai arbennig!

January 19, 2011 16:00 - 50 minutes - 70.5 MB

Croeso i rifyn 4 o’r Haclediad, gyda’r criw arferol y tro hwn mae Mei Gwilym (@meigwilym), anturiaethwr cod a’n space cadet dof ni am y noson. Bydd Sioned (@llef), Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Mei yn trafod Fforwm “cyfryngau newydd” (aw!) S4C, yn cymryd cipolwg ar gynnyrch y Consumer Electronics Show o Las Vegas a thrafod gêm iPhone Gymraeg gyntaf ‘Cerrig Peryg’ ynghyd â llawer mwy. Mae siawns i glywed am App Inventor Android hefyd, sy’n declyn da ni’n gobeithio ei ddefnyddio yma ar y...

Episode 3: Haclediad Y Nadolig

December 03, 2010 17:00 - 44 minutes - 53.3 MB

Helo-ho-ho, dyma anrheg Nadolig bach cynnar i chi – Haclediad #3! Ar y rhifyn hwn bydd Iestyn Lloyd (@iestynx) Bryn Salisbury (@bryns) a Sioned Edwards (@llef) yn trafod y mis diwethaf ym myd tech, ac yn edrych mlaen i’r flwyddyn newydd. Ar y fwydlen mae trafodaeth o system weithredu newydd Apple iOS 4.2.1 a dyfodiad y Beatles i iTunes; mwy ar broblemau diogelwch Facebook, a byddwn yn holi os yw’n troi yn ghetto i’r Gymraeg arlein. Hefyd gwybodaeth ECSGLIWSIF ar ddigwyddiad Hacio’r iaith 2...

Episode 2: Yr Ail Ddyfodiad

November 08, 2010 15:00 - 50 minutes - 70.6 MB

Croeso i ail rifyn yr Haclediad, ydan, da ni wedi mentro creu un arall, ys dywed y kids, be da ni fel?! Wele Haclediad #2. Unwaith eto mae Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn trafod tech a’r byd Cymreig. Buom ni’n trafod: “2.9 Million Enemies in 45 minutes” – Jeremy Hunt yn dweud bod Cymru ddim yn cael ei adael allan o’r cynlluniau band eang uwch-gyflym. Ond yn wir, ‘dyw Cymru ddim yn y treial. Yw hi’n amser nawr i’r cynulliad gael cyfrifoldeb a...

Episode 1: Croeso i’r Haclediad

October 25, 2010 09:00 - 39 minutes - 19.3 MB

“Henffych ddarpar wrandawyr! Hoffem ni, griw Hacio’r Iaith, gyflwyno podlediad newydd i’ch clustiau – wele, yr ‘Haclediad‘!” Reit, nol i’r unfed ganrif ar hugain, gobeithio byddwch chi yn mwynhau gwrando ar drafodaeth tech Gymraeg newydd sbon ar ein annwyl Haclediad. Bydd digon o bobl gwahanol yn cyfrannu o bryd i’w gilydd, ond yn y rhifyn hwn, mae’r criw, Bryn Salisbury (@bryns), Iestyn Lloyd (@iestynx) a Sioned Edwards (@llef), yn cael lot o drafod Mac allan o’i system. Gyda defnydd est...

Twitter Mentions

@llef 13 Episodes
@bryns 13 Episodes
@iestynx 13 Episodes
@nwdls 4 Episodes
@meigwilym 2 Episodes
@gwallter 1 Episode
@rhoslynprys 1 Episode
@melynmelyn 1 Episode
@madeley 1 Episode
@esportswales 1 Episode
@carlmorris 1 Episode
@carolecadwalla 1 Episode
@christapeterso 1 Episode
@cymrogav 1 Episode
@oxhcai 1 Episode
@lloydcymru 1 Episode
@kim_a_jones 1 Episode
@esylltmair 1 Episode
@joepompliano 1 Episode
@profcarroll 1 Episode