Yr Haclediad artwork

Yr Haclediad

135 episodes - Welsh - Latest episode: about 2 months ago -

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Technology News Tech News tech cymraeg welsh technology technoleg meddalwedd film cymru wales
Homepage Apple Podcasts Google Podcasts Overcast Castro Pocket Casts RSS feed

Episodes

Codiad Ymyl Heddychlon

March 25, 2020 11:00 - 1 hour - 54.1 MB

Ar bennod ddiwedara’r Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yma i ddelio efo’ch holl issues gofid-19 - ac i wneud chi chwerthin a glafoerio (ond ddim am yr un peth). Ni’n agor drysau’r clwb Ffilm Di Ddim gyda Pacific Rim: Uprising, yn canu moliant yr iPad newydd ac yn taflu awgrymiadau aps allan fel dwnim be. Smij o dan 2 awr o hwyl ynghwmni mêts? JUST BE CHI ANGEN! A, byddwch yn ddiolchgar na wnaethon ni alw’r bennod yma yn “Specific Rimming” fel oedden ni isie.

Gin & Aptonic

February 28, 2020 07:00 - 2 hours - 63.5 MB

Ar bennod ddiweddara'r Haclediad, bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud RIP i Apton, yn croesawu dyfodol 5G yr A55 ac yn trio ffigro dyfodol darlledu Cymru. Mae'r Afterparty yn llawn gorfoledd gwledd o ffilms Ghibli ar Netflix, piciad mewn ar Picard, pwt am Llyfr Glas Nebo LIVE! plus Bryn a'r Birds of Prey - hyn i gyd a mwy ar eich hoff wast o'ch amser prin ar y blaned hon 😊

Brynjury Recovery Blwyddyn Newydd

January 16, 2020 18:00 - 1 hour - 50.3 MB

Blwyddyn newydd dda gan griw’r Haclediad! Neidiwch mewn i ~2awr o epic i groesawu 2020 gyda Bryn, Iestyn a Sioned - byddwn ni’n trafod sut fod camera drws Ring yn rili doji, Sonos yn siwio Google, ac afterparty epic sy DDIM yn siarad am Star Wars Rise of Skywalker, ond sydd sorto yn. Hyn oll a llawer llawer mwy ym mhennod cyntaf 2020, diolch am danysgrifio! newydd dda gan griw’r Haclediad!

9 mlynedd yn y busnes

October 25, 2019 07:00 - 1 hour - 51.1 MB

Ar bennod ddiweddaraf dy hoff bodlediad oedd-yn-arfer-bod-am-tech-ond-sy-rŵan-am-Duw-â-ŵyr-be: Watchdog yn mynd yn gonzo ar Monzo; mwy o ddoethineb Craig Mod, ac mi aeth Iestyn i weld Joker 🤡🤡🤡 Mae'r after party yn llawn awgrymiadau anime a sci-fi i lleddfu nosweithiau tywyll yr hydref, joiwch! Diolch chi gyd sy'n tanysgrifio a gwrando - ac yn benodol i unrhyw un sy'n cyrraedd diwedd pennod 😂

Pawb at y Biji-bô!

September 18, 2019 10:30 - 1 hour - 74.5 MB

Tro yma ar eich hoff podlediad sy ddim wastad ‘dan 2 awr: Iest sy’n mynd trwy holl gyhoeddiadau newydd Apple, ni’n holi lle mae’r sci fi Cymraeg, mwy o stwff Apple, box sets, llyfrau, mwy o Apple a’r after parti hiraf ar record. Diolch am wrando, gadwch i ni wybod be chi’n meddwl ar @Llef (https://twitter.com/llef) / @Iestynx (https://twitter.com/iestynx) / @Bryns (https://twitter.com/bryns) 🙏

Ffeindia dy poni mewnol

August 03, 2019 08:00 - 1 hour - 69.4 MB

Ym mhennod parti’r bŵsi’r haf, mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio osgoi’r negyddol a chofleidio’r positif, iei! Ond hefyd, gorfod sôn am 5bn o ddirwy i Facebook, ap Tro sy’n cadw enwau mynyddoedd Cymru, trip cyntaf Sioned i’r Genius Bar ac epic afterparty Spider-man Far From Home, sboilers ymhobman!

FaceBucks

June 26, 2019 12:00 - 1 hour - 72.9 MB

Ar bennod hira’r haf bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn ystyried yr axis of evil tu ôl i Libra, arian newydd Facebook; yn breuddwydio am fynd am ffwc o dro tawel ac yn glafoerio dros popeth yn nghynhadledd gemau E3. Mae'r afterparty yn bownsio efo Good Omens, Nailed it, MIB: International a gemau bwrdd epic! Diolch am danysgrifio ☺️

Huawehei!

May 28, 2019 07:00 - 2 hours - 84.2 MB

Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a'r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad. Ond yn llwyth mwy o hwyl, mae blas o gyfweliad gyda Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau Shloc gyda ni, mewn crossover gyda podlediad Sionedigaeth! Wrth gwrs mae'r A-Gin-Da, Game/Gay of Thrones, spoilers Endgame a thollti te yn yr After parti, joiwch! Special Guest: Geraint Howells.

Mae Popeth Yn Ossym!

April 09, 2019 08:00 - 1 hour - 38.6 MB

Croeso i Haclediad cynta’r gwanwyn – mae’r ŵyn yn prancio, y blodau’n blaguro a da ni off i fyw mewn tŷ bêls heb drydan… Ond da chi yma am bodlediad lled-techy – so byddwn ni rîli’n siarad am tech gemau newydd Google Stadia, llanast “Anthem” Bioware; Stalkerware a Capten Marvel – a dim gwleidyddiaeth o gwbl! 🙌

Sneaky Nest a Robo-Iest

March 15, 2019 12:00 - 1 hour - 43.2 MB

Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets! Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffôn mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!) Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd - Carl o dîm Haciaith Caerfyrddin 2019, bydd o’n sôn am sesiynnau a datblygiadau’r gynhadledd i’r byd digidol Cymraeg. Ymddiheuriadau am safon sain Iestyn, mae o’n ...

Super-Techy-Gwylio Bocsets-Marie-Kondo-trocious

January 19, 2019 09:00 - 1 hour - 39.2 MB

Mae criw’r Haclediad yn hitio 2019 yn galed ym mhennod gyntaf 2019 - bydd Bryd, Iestyn a Sioned yn trafod iTunes a telis newydd, bocs sets S4C, diffodd social media a spoiler special afterparty cyfan ar Mary Poppins. Hoffwch, rhannwch a gadwch sylw!

Tri Gwirod Doeth

December 21, 2018 09:00 - 1 hour - 51.1 MB

Mae'r tân yn craclo, yr hors d'oeuvres allan o'r tupperware a mae Iest yn gwisgo ei hoff ffroc goctail sbarcli - ydi, mae'n amser am barti Nadolig yr Haclediad! Yn y garthen glyweledol yma bydd Iest, Sions a Bryn yn yfed gormod, trafod eu hoff ddarnau o'r flwyddyn AC YN TRIO AROS YN BOSITIF!

Ffototal Wipeout

November 12, 2018 09:00 - 1 hour - 42 MB

Ar bennod mis tywyll Tachwedd - bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud tata wrth terabytes o luniau Flickr, trafod y Google walkout a jyst pa mor doji ydy Silicon Valley. Yn yr afterparty mae hi’n Llyfr Glas Nebo spoiler-tastic, da ni’n Stanio’r doctor newydd, ynghyd â llwyth o sgwrs ffilms, teli a Gin (wrth gwrs)

Toilet BlockChain

October 01, 2018 19:00 - 1 hour - 45.3 MB

Croeso i Haclediad cynta’r Hydref – mae Bryn newydd ddod nôl o Chicago, Iestyn yn ei mansion newydd yn Dre ac yn paratoi i redeg hanner Marathon, a mae Sioned yn yfed Öl Mörk a hen wîn. OND mewn newyddion tech, mae iOs12 a’r oriawr Apple newydd allan, a da ni’n trio dod i ddeall y blockchain efo podlediad ZigZag (spoilyrs: dal dim clem). Diolch am wrando – gwaeddwch ar @llef (https://twitter.com/llef) @Bryns (https://twitter.com/bryns) neu @Iestynx (https://twitter.com/iestynx) efo unrhyw ad...

Llyfr Glas Kobo

August 18, 2018 07:00 - 1 hour - 32.3 MB

Post eisteddfod blues? Deifiwch mewn i bennod diweddaraf yr Haclediad i glywed mwy o Bryn blin ar e-lyfrau, Iest yn gadael y nest a Sioned yn ffrîcio allan bod Lin-Manuel Miranda yn Nghymru. Hefyd gwefan newydd ‘Y Pod’, planhigion vs anifeiliaid a llwyth o tech a bywyd ar eich hoff podcast niche am alcohol a wifi.

Yn Fyw o’r Boudoir

June 15, 2018 09:00 - 1 hour - 38.6 MB

Mae’r tîm ar chwâl ym mhennod ddiweddara’r Haclediad – mae’r adeiladwyr wedi dinistrio tŷ Sioned, Iestyn yn gwerthu ei dŷ fo, a Bryn yn boddi o dan tsunami o spam gan BT. Heblaw am hyna i gyd, bydd y criw yn trafod cynigion newydd Apple, prosiect cŵl Common Voice Mozilla a sketch Bar Facebook SNL (sori am fwy o Facebook, ni’n trio stopio onest) Wedyn, neidiwch mewn i’r afterparty lle mae pethe’n gwella lot. Wir ‘wan. Diolch i bawb am danysgrifio – rêtiwch ni ar iTunes!

Google Assiffestant

May 13, 2018 23:15 - 1 hour - 40.2 MB

Ar bennod ddiweddaraf eich hoff bodlediad shambolic bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y Google assistant newydd; Pam fod textio ar Android yn ofnadwy, Apple Watch Iest, trip Bryn i Ferlin ac ongoing obsesiwn Sioned efo ffilm lled-wael o 2015. Yr hyn oll o’r podlediad sy’n cynnig barn heb wybodaeth, joiwch!

Zuckin’ Hell

April 16, 2018 12:00 - 1 hour - 53.6 MB

Y tro yma ar yr Haclediad, ni'n mynd am deep dive mewn i uffern Facebook, Cambridge Analytica, ac mae Bryn yn treulio'r awr a hanner gyntaf yn ysgwyd ei ben a mwmian "be oeddech chi'n disgwyl?" OND arhoswch am yr afterparty am lwyth o hunan ofal, pobi, ac awgrymiadau be i wylio/gwrando arno am y mis nesa.

Iâ Iâ Baby

March 09, 2018 07:00 - 1 hour - 54.7 MB

Y tro yma ar yr Haclediad rhewllyd, bydd Bryn, Iest a Sions yn gwirioni dros Waze Cymraeg, smart sbecs sy’n edrych yn union fel rhai Bryn ac Elon Musk yn fflingio mwy o bethau i’r gofod. Plis sdiciwch adolygiad yn iTunes os gewch chi 5 munud fyd, ffankiw!

Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed

February 08, 2018 23:00 - 1 hour - 31.2 MB

Croeso i bennod cyntaf 2018 - yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn. Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well fyth gadwch adolygiad ar iTunes!

May The Port Be With You

December 22, 2017 09:00 - 2 hours - 63.1 MB

Ym mhennod arbennig estynedig (o God na!) Nadolig yr Haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod tech gorau’r flwyddyn, digwyddiadau enfawr 2017 ac yn mwynhau afterparty hynod HYNOD sbwylerllyd am The Last Jedi. Diolch ENFAWR am wrando dros y flwyddyn pawb, a plîs anfonwch eich sylwadau i ni – ni’n addo penodau byrrach yn 2018! O.N. Danfonwch yr isod i mewn atom: datblygiad tech gorau i ti ffendio leni hoff app teclyn alli di ddim byw hebddo peth brawychus y flwyddyn peth positif y flwy...

Drive By Sextoy Hack-lediad

November 18, 2017 11:00 - 1 hour - 82.8 MB

Ar yr Haclediad diweddaraf bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod Freakouts Algorythmic Peppa Pinc, hacio teclynnau rhyw, Haciaith 2018 ac adolygiad S4C - llwythi mwy doniol na mae’n swnio, addo! Mae’r afterparty yn llawn pop-culture, Netflix a sut bo iPhone X yn costio mwy na rhent. Plus, mae’r A-Gin-Da arbennig o dda mis ‘ma. Welwn ni chi tro nesa am y parti ‘Dolig!

iOS gafr eto?

October 07, 2017 08:00 - 1 hour - 59.7 MB

Mae criw’r haclediad yn dychwelyd i tech o’r diwedd! Llwyth o stwff sgleiniog Silicon Valley, Zuckerberg yn agor y bocs ac oes pwynt mewn gajets o gwbl? Arhoswch am yr after party am yr Iest Rhest a llwythi mwy!

Social Justice Warriars

September 08, 2017 11:00 - 1 hour - 61 MB

Mae’r hydref yma, mae’n amser prynu shares mewn carthenni a pumpkin lattes… a cwtsho lan gyda’r Haclediad am awr fach. Heno ar y sioe bydd Bryn, Sions a Iestyn yn trafod swigen confirmation bias Cymraeg, sut i ymladd carnage carnifal, ac yn recordio’r holl beth cyn cyhoeddiadau Apple am yr iPhone X ac 8, soz. Welwn ni chi mis nesa, diolch am wrando dwds!

Buspass Nains

July 07, 2017 06:45 - 1 hour - 70.8 MB

Llwythwch eich podfachwyr gyda'n rhifyn diweddaraf a joiwch yr haf! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod Hansh a Nation.cymru, cops a bychs arlein a pha mor hawdd ydi hi i fynd yn gaeth i scrolls diddiwedd. Hyn i gyd a llwyth o falu awyr, fydd digon i greu awel oer neis ar eich gwyliau. Bonws!

Bryn on the Thunder

May 30, 2017 19:00 - 1 hour - 67.2 MB

Ym mhennod danbaid 59 bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn taclo Google i/o, yr Echo Show ac SOS yr NHS mewn tameidiau taclus o 10 munud (efo larwm newydd ‘fyd!). Ar ôl y gwychrwydd cwic-fire yna, bydd crwydrsgwrs draddodiadol am unrhyw beth arall sy’n popio mewn i’n pennau, E-readers yn y bath a BrynBlin™. Joiwch, rêtiwch, a gadwch i ni wybod am fwy o tech Cymraeg (o.n. Recordiwyd hwn cyn i EE agor eu canolfan Gofal Cwsmer Cymraeg ym Merthyr, iei!)

Spring Breykjavik

May 04, 2017 20:00 - 1 hour - 89.3 MB

Y tro yma ar dy hoff bodlediad nerdaidd - mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio cadw’r newyddion i 10 munud y pop, mewn ymgais anhygoel i gael strwythur i’r sioe. Gei di weld os ‘di’n gweithio. Mwy am Siri a Gwlad yr Iâ, newidiadau bywyd o Facebook F8, Fitbit data yn y cwrt a llwythi mwy (yn cynnwys hanner awr arall o rambles i helpu ti gysgu, iei!) Cofia roi seren-neu-bump i ni ar iTunes, ac os ti awydd, beth am roi adolygiad i ni gael gwybod be ti’n meddwl? Ffankiw! O.N. gan Iestyn, sori am ans...

Yr Hashnods Perthnasol

April 05, 2017 15:00 - 1 hour - 51.7 MB

Ym mhennod ddiweddaraf yr Haclediad bydd y Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut gall yr hashnods cywir ddileu terfysgaeth, pam mai dal dim ond bŵz siomedig sydd gan Sioned, Brwydr y Barfau a holi faint o turn on yw’r Switch. Ymunwch â nhw am awr o farn heb ymchwil na gwybodaeth, falle fydd o’n hwyl!

Bŵz rhad a Nokias anfarwol

March 10, 2017 12:00 - 1 hour - 46.4 MB

Ym mhennod yma stori epic trawsnewidiad yr Haclediad o raglen tech i raglen gwirod a nostalgia; ry’n ni’n edrych ar y Nokia 3310, sy’ wedi ei atgyfodi, yn galaru am wasanaethau Google sy’n sicr ddim, ac yn chwennychu am Nintendo Switch, iei! Hyn i gyd a llwyth o sgwrsio, rhegfeydd a barn heb wybodaeth, yn amgz…

Episode 55: Nerdageddon yn Hacio'r Iaith 2017

January 31, 2017 21:00 - 41 minutes - 29.7 MB

Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i ni yn iTunes, ffankiw! Special Guests: Carl Morris and Rhodri ap Dyfrig.

Episode 54: Minilediad Hacio'r Iaith 2017

January 16, 2017 16:00 - 36 minutes - 26.6 MB

Yn nhraddodiad yr englyn, yr haiku a’r cwpled, ni’n dod â chywasgiad creadigol byr a bachog* o’r Haclediad i chi cyn digwyddiad Hacio’r Iaith eleni. Byddwn ni’n chwipio trwy ben-blwydd yr iPhone yn 10, a mwy o newyddion, cyn rhoi syniad i chi o be fydd i’w weld yn Pontio, Bangor ar Ionawr yr 21ain - ni’n edrych mlaen i’ch gweld chi yna!

Episode 53: HacDolig 2016

December 14, 2016 13:00 - 1 hour - 67 MB

O’r diwedd, mae 2016 yn dod i ben, a mae’n amser am barti Nadolig yr Haclediad – mae na damed lleia o tech yn y bennod, ond llwyth o bŵz a trio argyhoeddi pawb y bydd popeth yn iawn yn y diwedd. Ciciwch tîn 2016 efo ni, Dolig Llawen!

Episode 52: 52: Oi! Chdi! Teclyn!

October 14, 2016 16:00 - 1 hour - 59.1 MB

Tro yma ar yr Haclediad – mae’r Iest test nôl! Siarad am bylbs brilliant Phillips Hue. ‘Da ni hefyd nôl gyda’r home helpers digidol, Alexa o Amazon tro yma, plygwn ni’n clustiau at BBC Radio Cymru Mwy ac o bosib anfon y Cymro cyntaf i’r blaned goch gyda SpaceX. Hefyd, rhestri hirfaith o stwff gwych i wrando a gwylio arno, ond dim amser extra i wneud hynny – joiwch! The post Haclediad 52: Oi! Chdi! Teclyn! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 51: 51: Parti Haf

August 26, 2016 09:00 - 1 hour - 24.2 MB

Mae’r criw yn cymryd bach o hoe o fyd cymhleth tech am y rhifyn yma, ar feib hafaidd byddwn yn gwrando ar tiwns trwy Apton, a syllu’n gegrwth ar No Man’s Sky. Bydd lwyth o sgwrsio am y Iest Rhest(r) o’r holl Netflix/Amazon Prime/Ffilms ‘da ni heb gael siawns i wylio, ac wrth gwrs, trafodaeth helaeth ar goctêls y noson. Ymunwch â ni am barti hâf, pam lai? The post Haclediad 51: Parti Haf appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 50: 50: Canol Oed

June 09, 2016 10:00 - 1 hour - 38.9 MB

Croeso i bennod restrospectif (a hyd yn oed mwy random nac arfer) arbennig o’r Haclediad yn dathlu cyhoeddi ein hanner canfed podlediad. Bydd Bryn, Sioned ac Iestyn yn mynd a chi nôl trwy’r archif, ond yn trafod stwff heddiw hefyd fel bwtler Google, Android pay a minimaliaeth. Diolch enfawr i chi gyd am wrando dros yr hanner can rhifyn diwethaf! The post Haclediad 50 – Canol Oed appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 49: 49: Haciaith 2016

April 28, 2016 21:00 - 44 minutes - 42.5 MB

Mentrodd 66% o griw’r Haclediad i ddigwyddiad byw Hacio’r Iaith 2016 yng Nghaerdydd – ar cyfan gewch chi di’r podlediad ma! Buodd Bryn a Sioned yn cyfweld creawdwyr Macsen, llais AI cynta’ Gymraeg, yn ogystal â bwyta llawer gormod o Jelly Babies… The post Haclediad 49: Haciaith 2016 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 48: 48: OMB Haclediad arall syth bin!

April 13, 2016 16:00 - 1 hour - 37.3 MB

Haclediad newydd i’ch clustiau mewn llai na 6 mis? Be sydd, yn wir, haru ni? Tro yma bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod iPhones newydd (dyna sioc), Apple yn 40, rhwydwaith cymdeithasol kawaii ru hwnt newydd Nintendo, pa hawl sgen yr FBI i’ch gwybodaeth chi a cheir widawiw Tesla. Hyn oll a mwy yn arwain at Hacio’r iaith 2016 yng Nghaerdydd ar Ebrill 16, mwynhewch! The post Haclediad 48: OMB Haclediad arall syth bin! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap

March 07, 2016 14:00 - 51 minutes - 25.2 MB

Ar Haclediad cynta’r flwyddyn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn busnesa yn sioe tech CES, yn clywed mwy am Bryn ar y radio, snarkio am Snapchat a phendroni am BT Openreach (mwy diddorol nac y mae’n swnio, addo!). Fel pob rhifyn arall byddwn yn pigo’r gorau o straeon tech y mis ac yn hedfan off ar sangiadau gwyllt – mwynhewch! Dolenni Pres Duolingo The post Haclediad 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 46: 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd

December 24, 2015 23:00 - 55 minutes - 26.7 MB

Croeso i Sioe ho-ho-hollol Nadoligaidd yr Haclediad – tro yma byddwn yn taflu’r sgript mas trwy’r ffenest ac yn holi’n daer ar Siôn Corn am anrhegion tech sgleiniog, pethau newydd i’w chwarae â nhw, a heddwch ar ddaear lawr (yn amgz). Felly dowch, tiwniwch mewn a byddwch lawen, mae Bryn, Iestyn a Sions yn dymuno Nadolig Llawen iawn i chi a 2016 eitha gwych, diolch am wrando! Dolenni Xeno Fuji Cameras Withings Activité Sony Soundbase The post Haclediad 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd appe...

Episode 45: 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo

November 06, 2015 09:00 - 58 minutes - 28.1 MB

Yn rhifyn mis Tachwedd bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn sgwrsio am ddiogelwch Talk Talk, yn codi gwydraid i gofio Telsa Gwynne ac yn clymu eu tafodau rownd Duolingo yn y Gymraeg. Hyn i gyd a llwyth o sangiadau a tangiadau off i lwyth o lefydd diddorol (a lot o drafod pa mor enwog di’r cyfranwyr. Sboilar: ddim yn enwog o gwbl) Mwynhewch a diolch am wrando! Dolenni Telsa Gwynne (1969 – 2015) Second teenager arrested over TalkTalk data breach Introducing the Linus Yale lock UNICEF, Target tea...

Episode 44: 44: Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn

October 08, 2015 12:00 - 1 hour - 33.7 MB

Ydy, mae hi wedi bod yn rhy hir, mae’r Haclediad yma wedi hiatus hafaidd hir. Wedi damwain Bionic Bryn, mae’r criw nôl yn dod â’r diweddaraf o fyd tech i’ch clustiau, gyda’r gymysgedd arferol o fwydro a chabinet diodydd llawn. Tro ’ma bydd popeth o deganau sgleiniog newydd Apple i sinema 3D a cheir clyfar ar y fwydlen – mwynhewch! Dolenni Automatic ar gael (pre-order) ym Mhrydain What explains the rise of humans? The post Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn a...

Episode 43: 43: Cwcio ar Gas

July 21, 2015 19:00 - 1 hour - 32.8 MB

Yn yr Haclediad diweddaraf byddwn yn gadael i Google weld ein heneidiau wrth ddefnyddio Google Photos newydd, yn cynhyrfu dros gynhadledd datblygwyr byd-eang Apple (trïwch ddeud hynna efo llond ceg o uwd); yna’n yn myned i fyd y rants llyfrau digidol (eto) wrth ddarganfod nad yw llyfr Cymraeg y flwyddyn ar gael mewn fersiwn digidol. Hyn oll a llawer, llawer mwy (gan gynnwys cynhyrfu am ffwrn ryngweithiol OSSYM) gan eich tîm hacledu lleol, Iestyn, Bryn a Sioned! Dolenni I really don’t want...

Episode 42: 42: Minilediad Haciaith 2015

March 06, 2015 15:00 - 29 minutes - 14.9 MB

Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch! The post Haclediad 42 – Minilediad Haciaith 2015 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Episode 41: 41: detox, pa ddetox?

February 02, 2015 14:15 - 53 minutes - 26 MB

Croeso i Haclediad cyntaf eleni! Mae Ionawr yn amser i iacháu’r meddwl a chorff… neu i gario mlaen yn union fel oeddech chi, hwre! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn eich tywys yn gyfforddus mewn i 2015 wrth drafod cynlluniau brawychus y llywodraeth i fynnu gallu dad-gryptio pob neges anfonwn ni o hyn mlaen (iaics), sut beth yw Windows 10 i’w ddefnyddio a thameidiau blasus digidol eraill. O, a sut i ddeffro’r Kraken, yn naturiol. Dolenni David Cameron’s internet surveillance plans rival Syria...

Episode 40: 40: Bywyd yn dechrau yn Ddeugain!

October 02, 2014 09:00 - 57 minutes - 27.6 MB

Ydan, ry’n ni wedi cyrraedd 40 rhifyn o’r Haclediad — diolch am sticio efo ni! Yn y bennod hyd-yn-oed-llai-ffurfiol nac arfer bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dathlu pedair blynedd o’u hoff dechnoleg, DDIM yn trafod ‘bendgate’ yr iPhone 6 a thrio deall os yw Windows wedi anghofio sut i gyfri wrth fynd yn syth o Windows 8 i Windows 10. Diolch am wrando am y 40 rhifyn diwethaf giang, allwn ni’m gwneud o heboch chi! Dolenni Crash Formula E Windows 10 – lle aeth 9? Samsung Galaxy Y The post Ha...

Episode 39: 39: Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest

September 05, 2014 15:00 - 1 hour - 32.4 MB

Croeso i rifyn 39 (bron y 4-0 fawr) o’r Haclediad – byddwn ni’n trafod syniadau Cymdeithas yr Iaith am ariannu darlledwr amlgyfrwng newydd i Gymru, e-lyfrau plant Cymraeg yn dod i iBooks, Bryn yn hacio weiars a checkio nôl mewn gyda system reoli tŷ Iestyn wrth i’r tywydd oeri. Joiwch, a chofiwch, sdim sôn am NATO, llongau rhyfel ym Mae Caerdydd na Hofrenyddion Tony Stark-aidd yn y rhifyn yma, ffiw! Doleni Treth ar Google i ariannu darlledu yn y Gymraeg? Meet the new, reversible USB Cacen...

Episode 38: 38: tripiau haf a chips poeth

July 25, 2014 10:00 - 1 hour - 32.2 MB

Y tro ‘ma ar eich hoff bodlediad crasboeth tech Cymraeg: Bryn yn esbonio jyst pam fod DRIP am fusnesa ar eich holl fanylion personol, mwy ar ffonau Microsoft yn colli 18,000 o weithwyr (ac un cwsmer o’r enw Sioned), a chipolwg ar y ‘Tripadvisor’ Cymraeg “Ar y Ffordd”. Hyn oll a llawer mwy i’ch clustiau ar draethau/yng ngerddi/mewn cocktail bars ledled Cymru, joiwch! Doleni Microsoft to slash 18,000 jobs in deepest cuts in tech giant’s history A stopio creu ffonau android DRIP Argraffwyr...

Episode 37: 37: Google… anghofia hi.

June 13, 2014 10:00 - 1 hour - 34.2 MB

Tro yma ar yr haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn rhoi Nest Iest ar Test (iep, thermostat clyfar, w, cyffro!), gofyn i Google ein hanghofio ni, ac yn ail-fyw dyddiau euraidd gemau Nintendo trwy gemau newydd y Wii U o gynhadledd E3 yn Vegas. Ac wrth gwrs, bydd digon o jôcs gwael a thrafod tech i chi joio ar y traeth/tra’n llosgi selsig yn yr ardd (sa thermostat yn helpu falle). Dolenni Iaith rhaglennu newydd Apple – Swift Anghofiwch fi Google Nest Tweet to boost – Formula E E3 Nint...

Episode 36: 36: Yr un hwyrach na Office i’r iPad

May 01, 2014 12:00 - 1 hour - 37.7 MB

Ar rifyn yma’r haclediad bydd y criw yn cadw’u pennau yn y cymylau – wrth rêtio a slêtio systemau gweithio cwmwl rhai o’r cwmnïau mwyaf allan yna. Gyda Microsoft Office yn cyrraedd yr iPad (o’r diwedd), pa ddewisiadau arall sy’na i drefnu’ch taenlenni marwolaethau Game of Thrones? Byddwn yn sbecian ar sefyllfa Facebook yn prynu Occulus Rift (ar ôl i hwnnw godi ffortiwn trwy ariannu torfol, wps), a’r Iest Test tro yma yw’r system rheoli cartref Nest, jyst achos ei fod yn odli. Mwynhewch O....

Episode 35: 35: Yr un byw o Hacio’r Iaith 2014

February 21, 2014 13:00 - 47 minutes - 23.3 MB

Rhifyn byw o ddigwyddiad Hacio’r Iaith ym Mangor – gyda cyfweliadau am Cymru Byw (gwasanaeth newydd blogio byw y BBC) ac am holl stwff newydd data’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae digon o sgwrsio am fore’r digwyddiad hefyd, mwynhewch! *Dolenni i ddod… The post Haclediad #35: Yr un byw o Hacio’r Iaith 2014 appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Twitter Mentions

@llef 13 Episodes
@bryns 13 Episodes
@iestynx 13 Episodes
@nwdls 4 Episodes
@meigwilym 2 Episodes
@gwallter 1 Episode
@rhoslynprys 1 Episode
@melynmelyn 1 Episode
@madeley 1 Episode
@esportswales 1 Episode
@carlmorris 1 Episode
@carolecadwalla 1 Episode
@christapeterso 1 Episode
@cymrogav 1 Episode
@oxhcai 1 Episode
@lloydcymru 1 Episode
@kim_a_jones 1 Episode
@esylltmair 1 Episode
@joepompliano 1 Episode
@profcarroll 1 Episode