Yr Haclediad artwork

Yr Haclediad

135 episodes - Welsh - Latest episode: 19 days ago -

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Technology News Tech News tech cymraeg welsh technology technoleg meddalwedd film cymru wales
Homepage Apple Podcasts Google Podcasts Overcast Castro Pocket Casts RSS feed

Episodes

Mae 'na ffilms gwell Argylle...

April 28, 2024 22:45 - 2 hours - 74.2 MB

Shhhh, peidiwch gadael y gath o'r cŵd am gynnwys Haclediad mis Ebrill... y cyfan allwn ni ddeud ydy bod yr Humane AI pin yn siomedigaeth a mai Argylle ydy o bosib y Ffilmdiddim GWAETHAF hyd yn hyn (yup, waeth na Diana the Musical😨). Ymunwch â Bryn, Iestyn a Sions i leddfu'ch unigrwydd gyda 2+ awr o tech talk, trafod obsesiwn plant Sioned efo "Death in Paradise" ac awgrymiadau beth DYLE chi wylio (hint: Deffinetli ddim Argylle) Diolch o galon i bawb sy'n gwrando a chyfrannu - chi wirioneddol ...

Dune i’m, ‘de

March 31, 2024 22:45 - 2 hours - 77.2 MB

Pasg hapus... neu ffŵl Ebrill? Penderfynwch chi! OK, mae 'na newyddion tech i’w gael, ond mae pennod Mis Mawrth yn un Ffilm Di Ddim ffest go iawn... diolch i ffrind y sioe Ross McFarlane, mae Bryn, Sions ac Iest wedi gwylio DUNE (1984). Dy’n ni ddim yn rhy siŵr os ydyn ni’r un bobl ar ei ôl o, ond tiwniwch mewn i glywed Diolch i bob un ohonoch chi sy’n gwrando, cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) a chefnogi ni bob mis - a diolch arbennig i Iest am waith arwrol golygu a chynhyrchu’r sioe m...

Ddim cweit yn Taron 12

February 28, 2024 14:00 - 3 hours - 87.6 MB

“Haul y gwanwyn, gwaeth na gwenwyn” meddai’r Nains, so anwybyddwch y pelydrau egwan yna, ffendiwch flanced a cwtshwch fyny am bennod Chwefror 2024 o’ch hoff podlediad tech-ffilm-sortof! O’r diwedd byddwn ni’n mynd i’r berllan i weld be di’r ffys am yr Apple Vision Pro, a wedyn syllu’nyn gegrwth ar fideos AI diweddaraf Sora. I’r rhai ohono chi sy’n joio’r podcast-within-a-podcast, mae’r #FfilmDiDDim yn... ofnadwy?! Mi oedd na LOT o emosiynau cryf wrth drafod (Not your Daddy’s) Robin Hood (2018...

Rebal Moon Wîcend

January 28, 2024 07:00 - 3 hours - 83.3 MB

Diwedd mis Ionawr, tywydd ofnadwy, ond mae na gwmni da a ffilm gwael genno ni i'ch cadw i fynd! Bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod sgandal Horizon, Gladiators, dyfais ddigidol Rabbit (ond dim honna sori), memory hole Bryn am Bwncath ac amserlennu bysus efo AI. Mae'r ffilmdiddim yn LLANAST o gynhyrchiad gan un o feistri'r genre - Rebel Moon gsn Zack Snyder. Tybed pa un o'r criw oedd dioddef PMS gwaeth na'r arfer o'i herwydd? 😅 Diolch o galon eto i bawb sy'n gwrando, cyfrannu a rhoi hwb i ni g...

A Christmas Twistmas🎄🌪️

December 20, 2023 19:15 - 2 hours - 69.7 MB

🎄A dyma ni gyfeillion… gwledd Nadolig swmpus arall gan griw ffyddlon yr Haclediad. Mae’r fideo 10 awr 4k o le tân yn ffrydio as we speak, felly neidiwch mewn a joiwch ddechrau’r gwyliau Nadoig gyda ffilm-di-ddim-am-ddim OFNADWY a thrafodaeth ddeallus* a sensitif* o newyddion y flwyddyn. Mae Bryn, Iest a Sions yn cael dipyn o ddychryn go iawn wrth i Bard gamddarllen adroddiad S4C, yn cael dipyn o laff ar gelwydd Google Gemini ac yn joio trio ffigro allan be ydi teitl y Ffilm Di ddim - A Chrits...

Large Language Model Croft: Tomb Raider

November 29, 2023 10:30 - 2 hours - 74.1 MB

Gyda S4C yn sacio un pennaeth ac Open AI yn sacio/ddim sacio un nhw, dyma bodlediad i chi sy wastad dan yr un arweinyddiaeth gadarn... ond sydd hefyd ddigon twp i wylio ffilms ofnadwy bob mis😅 Yn Haclediad Mis Tachwedd bydd Iest, Bryn a Sions yn datgymalu dyfodol OpenAI a’r Gynhadledd Bletchley; trafod mysterious airtags yn ymddangos ar dy ffôn; ffindio’r clustffonau bach gorau ac wrth gwrs gwylio Lara Croft: Tomb Raider ar BBC iPlayer am laffs y #FfilmAmDdim Da ni’n hynod ddiolchgar i bawb ...

Tri Gwrach, un Pwmpen

October 31, 2023 15:00 - 2 hours - 80.4 MB

Ma genno ni bennod mwy sgeri na climate change i chi Mis yma - neu mwy sgeri nac AI oleia😏 Ymunwch â’r frightmasters eu hunain, Iestyn, Bryn a Sions i drafod y Google Pixel 8, printers (!) a sut i wneud dim byd gyda Jenny Odell 😴 FfilmAmDdim y mis ydy The Witches of Eastwick - ffilm gwallt mawr gorau'r ganrif ddiwethaf? Gewch chi weld 🧙‍♀️🧙‍♀️🧙‍♀️ Diolch i Daf y Gath, ab Agwedd a Jamie am gyfraniadau arbennig i'r pot KoFi mis yma - da ni'n wirioneddol stunned pan mae gwrandawyr yn cyfrannu, d...

SpecsDols G.I. Ken

September 24, 2023 21:00 - 2 hours - 76.1 MB

Hwciwch y pumpkin spice lattes na i'ch veins i ddathlu dechre'r hydref efo Bryn, Iest a Sions 🍂🍁 Mae'r dyfeisiadau diweddaraf gen Apple, Amazon a Google dan y chwyddwydr - yn ogystal â bill amddiffyniad plant digidol llywodraeth Prydain a pa mor syndod o ddefnyddiol ydy Bing chat 💡 Ond mae na laffs hefyd - mae'r Ffilm Di Ddim Am Ddim mis yma yn un o'r rhai mwyaf contrafyrshal ers Valerian! Ydy G.I. Joe Origins: Snake Eyes (Channel 4) yn ffilm o ddychymyg bachgen 11 oed efo cool sword fights,...

Bwncath Seepage

August 28, 2023 09:00 - 2 hours - 81.1 MB

Croeso i blow out diwedd y gwyliau i griw'r Haclediad - da ni'n rhoi Haf 2023 i'w wely gyda kraken o benod i chi ☺️ Ymunwch gyda Bryn, Sions ac Iestyn i weld final death throws TwiXter, yr argymhellion i gael awdurdod darlledu i Gymru a holi sut allith yr Eisteddfod ehangu allan o'r maes yn ddigidol... hyn oll a'r campwaith o FfilmI'rDim "Master and Commander: Far side of the World", pa weevil basa chi'n dewis?🤔 Saethwch eich cannon balls llawn arian draw i'r cyfrif KoFi neu rhannwch y sioe e...

Treklediad: Deep Space Bryn

July 29, 2023 11:30 - 2 hours - 78.4 MB

O'r diwedd, mae Bryn, Sions a Iestyn wedi ffendio ffordd i neud yr Haclediad yn hydynoed mwy o niche podcast na'r arfer... Ni'n neud pennod ar ffilm Star Trek 🤣 Na, na, peidiwch â mynd! Mae'n OK, mae genno ni lwyth o bethe arall, addo 😅 Fel bod ceir self driving rŵan yn road legal yn y DU, yr hwyl sydd i gael efo Bard a Bing, y trend weird o ffrydwyr NPCs ar Onlyfans ac wrth gwrs... Da ni'n gwylio Star Trek: Nemesis SORI NOT SORI. (cafodd y pod ei recordio CYN i Elon gael un normal iawn a new...

Caernarfon Has Fallen

June 26, 2023 11:30 - 2 hours - 75.1 MB

Rhy boeth i gysgu? Aircon yn freuddwyd pell? WEL, co’ chi Haclediad mis Mehefin i ffanio chi efo breezy chat tri ffrind am dechnoleg, billionaires a ffilms rybish Byddwn ni’n sipian coctêls oer a thrafod Reddit, VR Headset freaky newydd Apple, trip Bryn i dŷ’r Cyffredin a FfilmAmDdim-DiDdim waethaf (?) ein run ni o 40 hyd yn hyn: London has Fallen. Diolch o galon i bob un ohonnoch chi sy’n gwrando ac yn cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - chi’n ridic a da ni’n meddwl y byd ohono...

Byth Di Bod i Japan

May 28, 2023 19:15 - 2 hours - 74 MB

Mae’r Haclediad yn cael ei recordio mewn golau ddydd o’r diwedd -yup, mae’r haf yn dod! Byddwch yn barod am FfilmDiDdim(AmDdim) ridic o boncyrs - yr anhygoel Adventures of Buckaroo Banzai Across the 8th Dimension 😨 Hefyd y mis yma fe gewch chi chydig iawn o actual newyddion tech, a llwyth o travel vlog Sions wrth iddi ddychwelyd o daith gyfareddol i Japan 🗾 Hyn oll a llawer mwy ar Haclediad Mis Mai! Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, rhannu a hoffi’r sioe - chi werth y byd ❤️

AI Generated Gwynfor Evans

April 29, 2023 16:00 - 2 hours - 73.3 MB

Be, pennod mis Ebrill YN mis Ebrill?! Ydy, mae'r Haclediad nôl i'w threfn arferol - gyda pennod jiwsi arall i'ch clustiau chi. Mis yma bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod Humane AI a'i dyfais syth allan o'r ffilm "She", Alarms UK, Sioned yn ymuno â Mastodon fel rhywfath o hipster ac ein Ffilm Di Ddim Gymraeg gyntaf Y SŴN! A fydd Bryn yn cofio ei login S4C Clic? A fydd Sioned yn hitio'r sub standard tonic chydig yn galed? A fydd Iestyn yn pivotio i fod yn Anson Mount lookalike?! Yr atebion i hyn...

Pennod Mis Mawrth but make it Mis Ebrill / “Cocaine be?!”

April 02, 2023 11:00 - 2 hours - 65.4 MB

Mae hi di bod yn 'bit of a Mis' i griw'r Haclediad - so dyma chi treat bach, pennod mis Mawrth, ond ym mis Ebrill! Gyda franchise killer o Ffilm di Ddim, yr infamous Divergent:Allegiant, llwyth mwy o scramblo brêns gyda AI a fideo brilliant newydd arall ar y Metaverse gan Dan Olson mae genno ni gwerth mis o sioe arall i chi AM DDIM! Os hoffech chi helpu allan efo costau creu'r sioe a bil therapi'r cyflwynwyr, taflwch bit coin neu ddwy drew i'n cyfrif Ko-Fi fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad...

The Iest and the Furious

February 23, 2023 17:00 - 2 hours - 76.8 MB

Dewch am dro draw i diroedd pell Mastodon efo'r Haclediad mis yma - bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn gweld sut mae dechrau o'r dechrau ar rwydwaith gymdeithasol sy'n chydig o ddrysfa o'r tu allan. Da ni yma i ddal eich llaw i neud y naid! Byddwn ni hefyd yn rhoi Iest Test i'r frwydr am hawliau trans, yn ogystal â gwylio ffilm di ddim sy mor ridiculous allwn ni ddim hyd yn oed: Furious 7 Diolch o galon i bob un ohonoch chi sy'n gwrando, cefnogi a chyfrannu bob mis - caru chi! 😘

Sh*tcake Mushrooms

January 29, 2023 23:45 - 2 hours - 69.2 MB

Blwyddyn newydd dd- wps! OK so mae'r Haclediad braidd yn hwyr efo'r cyfarchion, ond dyma chi gwerth mis arall o #cynnwys tech a pop culture i'ch cadw i fynd yn 2023! Da ni'n popio draw i CES i weld skins newydd i dy gar, sensor piso a sut i optimeiddio dy hun i fod yn super hiwman. Ond pwy sydd angen hiwmans pan fydd AI yn neud y job drosa ni eniwe? Ffilm di ddim y mis ydy'r epic oesol Warcraft gan ffrind y sioe Duncan Jones - a bydd Iest, Bryn a Sions yn argymell beth ddylai chi wylio yn lle...

Sharknadodolig on Ice

December 24, 2022 13:45 - 3 hours - 84.1 MB

Da ni’n dathlu heuldro’r gaeaf yn yr unig ffordd bosib eleni - efo llwyth o booze a ffilm ofnadwy(o dda!) Iep, mis yma ni’n parhau i CSI-io diwedd Twitter, yn gegrwth efo sgams FTX, ac yn dathlu FIND Y FLWYDDYN gan Iest - ffilm A CHRISTMAS ICETASTROHE (2014) Diolch o galon i chi GYD am wrando, cyfrannu a chefnogi elenni - welwn ni chi am fwy yn 2023 🥰

Twit-Ty-Whodunnit

November 30, 2022 21:00 - 2 hours - 80.1 MB

OK bawb, mae'n gwdyn cymysg o'r gwych a'r gwallgof heno ar eich hoff bodlediad tech-a-phopeth arall, croeso ir gaeaf! Setlwch nôl efo mulled wine a neidiwch mewn i gornel crypto enfawr wrth i Iestyn drio esbonio be ddiawl sy'n digwydd 😅 Ry'n ffarwelio â cartref y we Gymraeg ers degawd wrth i Twitter gwympo'n ddarnau dan Elon Musk... Ac heb anghofio, mae'n dymor y siwmperi a charthenni, felly fe wylion ni Ffilm I'r Dim mis yma - See How They Run, cwtshwch lan a neidiwch mewn 🛋️

NFCheese

October 29, 2022 19:00 - 2 hours - 79.3 MB

Gyda tymor sbŵci ar ein pennau bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn neidio mewn i newyddion tech/bywyd/popeth yr hydref - ydy Rishi Sunak yn crypto bro? Hiraeth hen iPods a (diffyg) ethics apps cymdeithasol. (Recordiwyd y sioe cyn i Elon Musk actually brynu Twitter tho, sori!) Ffilm di ddim y mis ydy John Carter, ydy’r 10 mlynedd ers iddo agor wedi newid y feirniadaeth arno…? (sboilers: mae un o’r criw yn flin am y peth!) Diolch o galon eto i bawb sy’n gwrando a chyfrannu i’r sioe bob mis 🥹

Contrepreneurs

September 30, 2022 22:00 - 3 hours - 84.8 MB

Oeddech chi’n meddwl bod dim Haclediad am fod mis yma? Dim y fath lwc, yn hwyr neu’n hwyrach dyma hi, Haclediad mis Medi! Mae Bryn yn ôl o’i wyliau yn yr Eidal (dydi o ddim yn licio siarad amdano) ac yn barod i drafod newyddion tech efo Iestyn a Sioned. Bydd y criw yn trafod fideo newydd Dan Olson am Evans passive income, hardware newydd Amazon a cynhyrchiad theatr / ffilm / arlein newydd trippy “Galwad”. Yn fwy na hyn, bydd y criw yn trafod o bosib y ffilm di ddim di-ddimiaf ohonynt i gyd: ...

RRR-Bennig

August 29, 2022 18:00 - 2 hours - 73.6 MB

Mae’r tech yn eilradd i’r ffilm y mis yma - gyda Iestyn, Bryn a Sions yn taclo’r Ymerodraeth Brydeinig yn y FFORDD MWYAF EPIC trwy wylio/profi RRR 🤯 OK, mae na chydig o tech hefyd, gyda sŵn diffeithwch y gofod, keyloggers yn browsers eich hoff social media apps a burnout artistiaid vfx - ond gan fwyaf? RRR fancast ydy hwn mis yma (a byddwn, fyddwn ni'n sôn am y stwff problematic hefyd 😣) Diolch o galon i’n holl gyfranwyr ar Kofi, ac i bob un ohonoch chi sy’n gwrando ar y llanast yma bob mis -...

Rheol Goldblum's Law

July 30, 2022 18:00 - 2 hours - 67 MB

Dyma hi, parti haf (arall) yr Haclediad - a mae hi just digon hir i bara'r dreif i'r sdeddfod 😬 🍹 Fel Piña colada i'ch clustiau, bydd Bryn, Iestyn a Sions yn sipian drinks oer, trafod Glassholes, backlash Insta newydd a ffilm... Dda!? Yup, ar ôl dwy flynedd o 'Ffilmiau Di Ddim', mae'r criw yn swapio'r rhai gwael am 'Ffilmiau Pam Ddim?' Ac yn deifio fewn efo'r design classic mildly problematic The Man From U.N.C.L.E. 😅 Diolch o galon eto i bawb sy wedi ein cefnogi ni wrth wrando a chyfrannu i'...

Anadin Skywalker: The Cursed Haclediad

June 29, 2022 16:45 - 2 hours - 76.7 MB

Meddwl mai dim ond Iesu Grist oedd yn gallu atgyfodi pethe o farw'n fyw? Meddyliwch eto - trwy rhyw wyrth mae’r criw yn cyflwyno Pennod 111 i chi: The Cursed Haclediad. Mae na newyddion sentient chatbots a’r Apple WWDC yn ogystal â Ffilm di Ddim rybish go iawn (Jumper gyda Hayden Christensen);ond yn bwysicach na hynny... Mae na bennod wedi ei ryddhau mis yma diolch i Iestyn Grist ✝️😇👼 Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) 😉a rhannu’r amateur (2) hour ym...

Wild Mountain Thymecoin

May 24, 2022 12:15 - 2 hours - 97.9 MB

Croeso i Haclediad arall sy’n gofyn “ydy gwneud acen Wyddelig, pan ti’n amlwg ddim yn Wyddelig, yn dderbyniol?” Mae’r ateb i hwn, a’ch holl gwestiynau tech, yma ar bennod 110 o’r Haclediad. Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn mynd i Gornel Crypto Caernarfon, siarad efo dy Sonos, herio Netflix a siarad am y “Ffilm Di Ddim gwaethaf hyd yn hyn” - Bryn Salisbury Diolch i chi gyd am wrando bob mis, ni’n joio llenwi’ch clustiau efo’r audio equivalent o’r distraction dance - os chi awydd ymuno â’r criw ff...

House of Chŵd-cci

April 25, 2022 09:00 - 2 hours - 68.9 MB

Os nad yw’r teitl rhy off-putting i chi, dyma Haclediad mis Ebrill😅 Mae gyda ni 2+ awr o newyddion tech, barn heb ymchwil na gwybodaeth, a ffilm di-ddim FFYRNIG🔥 Bydd Iest, Bryn a Sions yn holi pam na chafon nhw £32k i wneud podcast am gaws efo Mark Drakeford, dwyn Netflix logins Yncl Rhyds a trio deall Bond villain plan Elon Musk - hyn i gyd cyn gwylio HOUSE OF GUCCI a lansio spin off sit-com efo Paolo👌 Diolch eto i chi GYD sy’n gwrando, cyfrannu a rhannu’r amateur (2) hour yma o sioe - wel...

BMX Bryndits

March 27, 2022 16:00 - 2 hours - 75.9 MB

Mae’n dymor newydd, felly dyma bennod ffresh lliwgar i’r gwanwyn i chi ffam yr Haclediad - mwynhewch 2+ awr o Bryn, Iestyn a Sions yn eich clustiau. Mae ganddo ni scoop o newyddion tech go-iawn gan Iest - app Speechify a’i tech llais text-to-speech Cymraeg sy'n curo Siri. Hefyd, y newyddion tech allai helpu droi'r llanw yn rhyfel torcalonnus Iwcrain. Ffilm di ddim y mis ydy’r ridic/hyfryd/weird BMX Bandits o 1983 - ac with gwrs mae na sbrinclad o awgrymiadau ffilms, streaming a (old skool) l...

Hamiltwrd

February 18, 2022 13:00 - 2 hours - 69.7 MB

Tro yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn brwydro trwy hellscape teulu’r Windsors i gadw cwmni efo chi am y 2~ awr nesa. Yn ogystal â thrafod toxic Roblox, rhaglen ddogfen ‘The Instagram Effect’ a ffilm ddogfen anhygoel Dan Olson ‘Line Goes Up -The Problem with NFTs’; byddwn ni’n eich cyflwyno i erchylltra ‘Diana - The Musical’. So diolch i Sioned am awgrymu hwna i ni gyd, a sbwylio mis pawb. Gwd job 😬 Os hoffech chi gefnogi’r fath ffwlbri, beth am daflu cwpl o bunnoedd i’r cwpan Ko-fi fan hyn (h...

Hei Pen Pidyn

January 24, 2022 21:00 - 2 hours - 78.4 MB

Mae’n amser dechrau’r flwyddyn efo pennod XXL arall o’ch hoff podlediad-am-tech-ond-ddim-rili 🤓 ‘Da ni wedi newid y drefn chydig mis yma, felly fe gewch chi bodlediad CYFAN cyn i ni hitio’r FfilmDiDdim, so fyny i chi lle da chi am neidio off y thrill ride o sioe 😆 Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yma i awgrymu sut i wario £7.5 miliwn o arian Digidol i S4C, newid y ffi drwydded a chwerthin ar stwff random CES ymysg llwythi o bethau eraill. #FfilmDiDdim y mis ydy’r unigryw RED NOTICE 🚨 Ydy’r isdeitla...

Santa-ta 2021

December 24, 2021 13:45 - 2 hours - 80.6 MB

🎉 Diolch ENFAWR i Gwyn T. Paith am tip anhygoel trw Ko-fi (https://ko-fi.com/haclediad) fydd yn hostio’r sioe am 6 mis nesa! 😍 🎄 Dyma hi, eich epic cael-chi-trwy-Dolig Haclediad! Dewch i’r parti Dolig i glywed am wins, downars (dim lot, addo!) a gobeithion Iest, Bryn a Sions am y flwyddyn dwetha, a’r flwyddyn i ddod. 🎅 Ac OBVS byddwn ni’n trafod twrdyn ffresh o ffilm - Father Christmas is Back - a gan fydd economi Cymru yn rhedeg ar OnlyFans a Netflix Christmas Movies o hyn mlaen, cymwch note...

Bataverse

November 23, 2021 11:00 - 2 hours - 69.6 MB

🔥Cwtshwch yn agos i’r firepit rhithiol a neidiwch mewn i metaverse yr Haclediad am bennod newydd sbon gaeafol🔥 Y mis yma bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn sibrwd y newyddion tech, gemau a diwylliant diweddaraf i’ch clustiau - yn ogystal â gwylio ffilm ARALL o 1997: Batman & Robin, bet bo chi methu aros am honna. A fydd B&R yn “Valerian Level”? Gwrandewch i ffindio allan… 🎉 Diolch enfawr i bawb sy’n lawrlwytho, ond yn arbennig i Matthew Madison am y Ko-Fi sydd wedi talu am y ‘hosting’ mis yma. ko...

Bondigrybwyll

October 28, 2021 15:00 - 3 hours - 95.2 MB

Bron i 3 awr o gadgets, sgwrsio suave a gwisgoedd arbennig... Bond film newydd neu Haclediad #103? Pam ddim yn ddau?! Yup, mae’ch hoff cusping Milennials chi nôl efo newyddion yr N64 y dod i Switch, y Facebook Files a #FfilmdiDdim arall o’r 90au - y clasur am hawliau darlledu - Tomorrow Never Dies Diolch am danysgrifio - cofiwch bod hi’n beryg i wrando ar yr Haclediad mewn un go, defnyddiwch y chapter markers gwych gan Iest #podresponsibly

Zig-a-Zig-Nah. Just nah.

September 19, 2021 15:00 - 2 hours - 81.6 MB

🍂Mae’r hydref yma, cwtshwch lan gyda Bryn, Sions a Iestyn am dipyn o Spice a llond lle o afalau… Ydi, mae’r iphone 13 yma, ma grŵp Facebook dal yn crîps a #ffilmdiddim y mis ydy’r unigryw SpiceWorld: Ai Dyma’r Ffilm Waethaf i Nhw Wylio Erioed?! Diolch am danysgrifio, gwrando a chefnogi’r Haclediad 🥰

S**t Handwich

August 28, 2021 21:00 - 2 hours - 72.9 MB

Mae’r haf yn dod i ben, ond mae gan yr Haclediad bennod mor hir â phenwythnos gŵyl y banc i chi joio... O’r teslabot, ac amddiffyn plant gan Apple i Only Fans yn banio pr0n mae na rywbeth i bawb ma — a ffilm-di-ddim sy'n lanast o franchise starter, Suicide Squad (2016) Hyn i gyd ac awgrymiadau be i wylio/darllen/gwrando am y mymryn o haf sydd ar ôl yn 2021 - diolch am wrando 😘

Iawn Cant?

July 30, 2021 11:00 - 2 hours - 79.4 MB

Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae Bryn, Sions ac Iest wedi creu miloedd o oriau o #cynnwys i’ch clustiau chi — a dyma benllanw eu celf clywedol — pennod 100 o’r Haclediad! Yma byddwn ni’n trafod bach o tech (podlediad ‘Hyfryd iawn’ ar Spotify, app Newydduon S4C), bach o ethics (rhannu data iechyd) a cachlwyth o stwff da i wylio ar streaming. I topio’r cyfan, ymunwch â ni am ein trip cyntaf i fyd ffilms di ddim Liam Neeson efo’r juggernaut (geddit) o #FfilmdiDdim Ice Road Diolch am wrando! 🚛🚐🚛

Sbeshal Audio

June 21, 2021 22:00 - 3 hours - 82.7 MB

Croeso i'ch chill hang misol am tech, TV a ffilms mor wael mae nhw'n... wael?! Mis yma mae Bryn, Iest a Sioned yn trafod holl ddatblygiadau shiny newydd WWDC Apple; yn rhoi tro ar ffilm di ddim "Ender's Game" ac wrth gwrs yn cynnig cwpl o oriau o #cynnwys i gael chi trwy weddill 2021 efo gwên ar eich gwyneb ☺️ Welwn ni chi mis nesa am bennod... 100🤯

Cream of the Cymoedd

May 23, 2021 10:00 - 3 hours - 95.7 MB

OK, so chi’n edrych ar y running time yna ac yn meddwl “be ddiawl alle gyfiawnhau 3hr+ running time?” SPECIAL GUEST, na be! Mis yma, mae Bryn, Iest a Sions yn croesawu Mr Game and Watch ei hun, Gav Murphy i’r sioe! Rhan o’r RKG Video collective, yr enwog @CymroGav (https://Twitter.com/cymrogav) ar twitter a basically y boi ma’r BBC yn ffonio i gael rwyn i siarad am ‘games a ballu’. Bydd Gav a’r criw yn siarad am SUPER MARIO BROS (1993) - diolch massive iddo am ddod ar y sioe ☺️ Checkiwch y ch...

Non Fungible Gojira

April 24, 2021 08:00 - 2 hours - 76.8 MB

Tro ‘ma ar eich hoff substitute am fywyd cymdeithasol tan i’r pybs agor: bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn checkio allan fights mawr byd tech, a fights mawr Kaiju yn Godzilla King of the Monsters. Ydy NFTs yn morally ofnadwy, neu’n ddyfodol disglair i’r byd celf arlein? Gav Murphy vs Griff Lynch yn nhudalennau Golwg; Mae Bryn yn couch-2-5-k-io, Sions yn optio allan o consumerism tra’n joio app Newyddion S4C, a Iest yn ecseitio am yr Apple event diweddaraf. Ond chi yma am y lols, so sgipiwch mlae...

Haclediad 2: Turbo // Tweet Fighter

March 31, 2021 10:00 - 2 hours - 78.6 MB

"For You, The Day Yr Haclediad Graced Your Village Was The Most Important Day In Your Life, But For Us? It Was Tuesday.” Mae Ffilm Di Ddim y mis yma yn epic yn y genre Game-to-Movie, peak 1994: yr anhygoel Street Fighter! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned hefyd yn rowndio fyny’r newyddion ar NFTs, Bitcoin a’r bolycs yna i gyd - ond mostly pennod ar Street Fighter ydy hon. This Is Merely Superconductor Electromagnetism! Surely You've Heard Of It? It Levitates Bullet Trains From Tokyo To Osaka. It Lev...

Flappy Engines

February 28, 2021 19:00 - 2 hours - 79.9 MB

Dewch i fwynhau * 2+ awr o tech, sgwrs a films gwael gyda Iestyn, Bryn a Sioned - mis yma da ni nôl ar y blockchain yn prynu celf, yn gamifyo ein pelvic floor muscles ac yn canu marwnad i Daft Punk (RIP Robots Trist). #FfilmdiDdim y mis yma ydy Mortal Engines, oedd i fod yn hiwj o franchise starter i dîm cynhyrchu LOTR, ond a drodd allan yn... llanast! Diolch eto am wrando, neu just am roi ni mlaen yn y cefndir tra bo chi'n trio cael bach o atmosffer swyddfa/tafarn wrth eich bwrdd gegin 🙏☺️ *😅

Blew a Bara

January 31, 2021 11:00 - 2 hours - 73.5 MB

Croeso i 2021, yn llawn gobaith, uncorns ac enfysau... Neu just blwyddyn arall o tech bants, booze a ffilms gwael gyda Bryn, Iestyn a Sioned 😍 Mae'r trio yma i gadw cwmni i chi am awr (neu dair) arall i drafod preifatrwydd WhatsApp, Barddoniaeth Amanda Gorman, skillz bara Bryn a gwasanaeth ffitrwydd Apple. Ffilm di ddim y mis yw'r unigryw THE MEG... ffilm gyda mwy o deifio na'r premier league - ond a fydd o'n well na Sharknado? Gwrandewch i ffindo mas 🦈🌊😅

NaDollyg Llawen 2020

December 23, 2020 10:00 - 2 hours - 97.3 MB

Ydy, mae popeth yn eitha ofnadwy ar hyn o bryd - ond mae Bryn, Iest a Sioned yma i sgwrsio am 2 awr a chadw cwmni i chi ☺️🍷❤️ Mae na minimal tech a maximal #ffilmdiddim yn y bennod yma - yn anffodus y ffilm yna ydi Dolly Parton's Christmas on the Square, gwrandwch i weld os di'r ffilm actually yn torri Bryn 😅 Diolch i BAWB sy'n gwrando, dros y flwyddyn, y 10 mlynedd dwetha, ac i bawb sydd heb ddileu'r Haclediad o'u Podcatcher 🥰

Manic Pixie Dream Hars Box

November 22, 2020 10:00 - 2 hours - 80.9 MB

Gweithio o adre? Isie esgus bod ganddo chi ffrindiau yn malu cachu ar y ddesg drws nesa? Dyma’r union beth i chi- Haclediad #92! Yn y bennod yma bydd Bryn, Iestyn a Sions yn trafod yr iPhone newydd sgleiniog sy gan Iest a sut mae gwerthu ffôns wedi cloi bellach yn anghyfreithlon; 4k restorations lliw ffilmiau o ganrif yn ôl, wal magic John King, filmiau Cymraeg ar Amazon a #FfilmDiDdim sy bron mor “WTF?!” â Cats - Winter’s Tale.

Rheg Mlynedd yn y Busnes

October 25, 2020 07:00 - 3 hours - 90.3 MB

Logiwch allan o fywyd go-iawn am bnawn, joiwch Lockdown 2: Electric Boogaloo a dewch i ddathlu 10 mlynedd o’r Haclediad! Mae Bryn, Iestyn a Sioned am fynd â chi ar daith hiraethus lawr 10 mlynedd o’r RSS feed - gan groniclo’r bŵz, apps, tech a digwyddiadau sydd wedi’n newid ni ar y ffordd. Y #ffilmdiddim o 2010 yw The Last Airbender (ond peidiwch gwylio fo, mae’n ofnadwy). Daliwch i wrando mewn i awr 3 lle mae’r achos waethaf o igian erioed yn taro un o’r tîm… DIOLCH i bob un ohonoch chi sy’n...

Pope on a Rope

September 27, 2020 11:00 - 2 hours - 72.9 MB

Ar bennod diweddaraf eich hoff bodlediad 2awr+ bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod llwyth o gyhoeddiadau Apple newydd, Android 11, Q-Anon yn cyrraedd Caerdydd, algorithmau hiliol a llawer mwy. Hefyd, bydd Bryn yn rhoi update PWYSIG am App Covid-19 tracker yr NHS. Hyn oll ynghyd â'r #ffilmdiddim Angels and Demons - yup, oedd o just mor ofnadwy ac oedden ni'n disgwyl 😬 Diolch o ❤️ am wrando, welwn ni chi tro nesa!

Apple, Epic a’r Gwyddonydd Cwerylgar

August 24, 2020 11:00 - 2 hours - 65.3 MB

🍹Ar bennod ddiweddaraf yr Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cymryd amser allan o’u bywydau jet-set i ymlacio a chael parti haf. Ry’n ni yma gyda llond pwll padlo o storis “ffycin adorable” am y tech diwedaraf a Ffilm Di Ddim anhygoel arall gan frenin y genre: Gerard Buttwad. Felly - joia dros 2 awr lle does dim rhaid i ti feddwl am ddim byd, yn union fel da ni wrth recordio fo 😅 Dilynwch ni ar @Haclediad (https://twitter.com/haclediad) a taflwch tip draw ar Ko-fi (https://ko-fi.com/hac...

Werewolf SuperTed

July 24, 2020 09:00 - 2 hours - 71.9 MB

Ar bennod gorlawn ddiweddara’r Award-Winning Haclediad🥈 mae Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod chips Afal, mwy o Huawe-hei, Henry Cavill yn adeiladu PC mewn vest, e-scooters a llwythi mwy. #Ffilmdiddim y mis yma ydy ‘Jupiter Ascending’ - ffilm arall i doddi brên gan Y Wachowskis Cofia ddefnyddio’r chapters i neidio o gwmpas y 2awr+ o pod - neu gwranda arno fo i gyd, bebyns 😆 Diolch i bawb am wrando, welwn ni chi mis nesa 💕

Rhagflast o'r Podcast

July 14, 2020 11:30 - 14 minutes - 20.6 MB

Wedi clywed am Yr Haclediad ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn dod yn 2il yng Ngwobrau’r British Podcast Awards? Dim clem be ydy’r sioe random yma? Gwranda ar y nugget aur yma – dyma oreuon o’n sgyrsiau o 2019! Am fwy fel hyn bob mis, sdicia ni yn dy app podlediadau neu cer i haclediad.cymru (https://haclediad.cymru)

Mr Mistoffe-plîs stopia

June 19, 2020 10:00 - 2 hours - 72.9 MB

Y tro yma ar y Jellicle podlediad sy’n 2 awr o dy amser gei fi fyth nôl… Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut mae’r Premier League a byd e-sports basically r’un peth erbyn hyn; saga parhaol app contact tracio yr NHS; Shopify fel lle gwell i siopa nac Amazon a llawer LLAWER mwy. Ond yn bwysicach na hynny - #FfilmDiDdim y mis yw'r anghredadwy CATS! (2019) ymunwch â ni am ganu lletchwith a ffwr freaky mewn 2awr+ o bodlediad sy’n neud mwy o sens na’r oll o 2020 yn barod 😹

Crims Hems-worth it?

May 22, 2020 16:00 - 2 hours - 73.5 MB

Croeso i bennod mis Mai 2020 o’r Emmy® award nominated Haclediad - sy’n panicio braidd bydd bobl actually yn gwrando tro ‘ma. Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs, app tracio symptomau hollbwysig ond doomed NHSx a llwythi mwy. Ond chi wrth gwrs yma i wrando ar y legendary Afterparty, lle byddwn ni’n gwylio “Blackhat” (dir. Michael Mann,2015) a cholli ein meddyliau - ...

Da Di Dane DeHaan De?!

April 24, 2020 08:00 - 2 hours - 63 MB

Croeso i ail bennod manic lockdown energy yr Haclediad – yn dod atoch chi’n fyw o, wel yr union un lle ac o’r blaen - ond gyda gin drytach. Ar y bennod yma (gafodd ei recordio cyn i sgilz Cymraeg Alexa ddod allan) bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod yr iPhone SE massive newydd, apps contact tracing newydd, a llwyddiant De Korea, pam fod pawb angen printers a Nintendo Switches mor sydyn… Ac wrth gwrs, after party epic yn gwylio’r campwaith di-amau “Valerian and the City of a Thousand Planets” 🚀...

Twitter Mentions

@llef 13 Episodes
@bryns 13 Episodes
@iestynx 13 Episodes
@nwdls 4 Episodes
@meigwilym 2 Episodes
@gwallter 1 Episode
@rhoslynprys 1 Episode
@melynmelyn 1 Episode
@madeley 1 Episode
@esportswales 1 Episode
@carlmorris 1 Episode
@carolecadwalla 1 Episode
@christapeterso 1 Episode
@cymrogav 1 Episode
@oxhcai 1 Episode
@lloydcymru 1 Episode
@kim_a_jones 1 Episode
@esylltmair 1 Episode
@joepompliano 1 Episode
@profcarroll 1 Episode