#92 - Mewnwelediad i'r sefyllfa bresennol o ran ôl-troed carbon ffermydd bîff a defaid yng Nghymru
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
English - January 28, 2024 18:00 - 43 minutes - 81.5 MBBusiness News Business News farming rural wales agriculture business ffermio Homepage Download Apple Podcasts Google Podcasts Overcast Castro Pocket Casts RSS feed
Mae Cennydd Jones yn cael cwmni Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon, Cyswllt Ffermio.
Mae'r rhifyn hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau archwiliadau ôl-troed carbon a gwblhawyd ar 185 o ffermydd bîff a defaid drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Pwrpas yr astudiaeth fer hon oedd crynhoi canlyniadau’r archwiliadau hyn a gwblhawyd yn 2022 er mwyn echdynnu ffigyrau defnyddiol a fydd yn rhoi mewnwelediad i'r sefyllfa bresennol o ran ôl-troed carbon ffermydd bîff a defaid yng Nghymru.
Mae astudiaeth Cyswllt Ffermio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gynhyrchir gan fentrau cig coch wedi dangos bod ffermydd Cymru yn is na’r meincnod ar gyfer ffermydd tebyg ar draws y DU. Gwrandewch am fwy o wybodaeth! Dolenni defnyddiol- Astudiaeth newydd ar Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn awgrymu canlyniadau calonogol i ffermydd bîff a defaid Cymru Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio
Cysylltwch a ni Digwyddiad- MEISTR AR ÔL TROED CARBON: BETH MAE HYN YN EI OLYGU?