#93 - Cyfres Rheoli Staff - Pennod 2: Cytundebau gweithwyr
Ear to the Ground / Clust i'r Ddaear
English - February 04, 2024 18:00 - 24 minutes - 46 MBBusiness News Business News farming rural wales agriculture business ffermio Homepage Download Apple Podcasts Google Podcasts Overcast Castro Pocket Casts RSS feed
Yn ymuno â Rhian Price mae Rhodri Jones, un o gyfarwyddwyr cwmni Rural Advisor. Mae Rhodri yn gyfreithiwr cymwysedig sy'n arbenigo mewn materion cyfreithiol gwledig. Ochr yn ochr â'i ymrwymiadau gwaith mae hefyd yn ffermio buches sy'n lloia yn y gwanwyn yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn gyda'i wraig Siwan.
Bydd y bennod hon yn canolbwyntio ar gyfreithlondeb cyflogaeth a pham mae'n bwysig cael contract staff cofnodedig cadarn yn ei le. Os ydych chi'n gyflogwr neu'n gyflogai yn y sector Amaeth, bydd y bennod hon yn rhoi cyfoeth o wybodaeth i'w hystyried yn y rhifyn hanner awr hwn o hyd.