'Rancher' gwartheg o Texas yw Jim Elizondo sydd â 30 mlynedd o brofiad o reoli da byw mewn amodau hinsawdd amrywiol ar draws America a thu hwnt. Mae ei angerdd yn helpu ffermwyr i adfywio eu tir tra'n cyrraedd y proffidioldeb mwyaf bosib. Mae’n darparu hyfforddiant ‘Real Wealth Ranching’ i gleientiaid o bob rhan o’r byd ac mae wedi helpu nifer o fusnesau fferm i gyrraedd y cynhyrchiant mwyaf posibl wrth adfywio eu tir.

Yn ddiweddar bu Jim yn cyflwyno mewn digwyddiadau Cyswllt Ffermio, mae’r bennod hon a gyflwynir gan Cennydd Jones yn gyfle arall i glywed cefndir Jim a'i athroniaeth ffermio.